Cerdyn Archifau
Tocyn darllenydd archifau unigol yw’r Cerdyn Archifau ac mae’n rhoi mynediad ichi i doreth o ddeunyddiau archif gwreiddiol mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig. Mae angen ichi wneud cais am Gerdyn os ydych yn dymuno gweld dogfennau gwreiddiol yn unrhyw un neu ragor o'r archifau sy'n cymryd rhan yn y cynllun.
Mae cynllun y Cerdyn Archifau’n cael ei weithredu gan ARA Commercial, sy’n is-gwmni i’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion, sef y prif gorff i archifau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Darllen Mwy